Philippians 3:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys ein gwladwriaeth ni ’sy yn y nef oedd, o’r lle ydd ym yn edrych am yr Iachawdr, ’sef yr Arglwydd Iesu Christ,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys ein dinasyddiaeth ni, yn y nefoedd y mae; o’r lle y disgwyliwn hefyd iachawdwr,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys yn y nefoedd y mae ein dinasyddiaeth ni, ac oddiyno hefyd y disgwyliwn fel Iachawdwr yr Arglwydd Iesu Grist,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd; o'r lle hefyd yr ydym yn disgwyl yr Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dŷn ni'n wahanol. Dŷn ni'n ddinasyddion y nefoedd, ac yn edrych ymlaen yn frwd i'n Hachubwr, yr Arglwydd Iesu Grist, ddod yn ôl o'r nefoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yn y nefoedd y mae ein dinasyddiaeth ni, ac oddi yno hefyd yr ydym yn disgwyl Gwaredwr, sef yr Arglwydd Iesu Grist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys ein dinasyddiaeth ni sydd o'r dechreu yn y nefoedd, o'r lle hefyd y dysgwyliwn Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist,