Philippians 3:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr hwn a ys y mut ein corph gwael ni, val y gwneler yn unffurf a y gorph gogoneddus ef, erwydd y nerth ovvgrvvydd, gan yr hyn y dychon ef ðarestwng pop dim yddaw yhun.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr Arglwydd Iesu Grist, yr Hwn a ddull-newidia gorph ein hymostyngiad i fod yn un-ffurf â chorph Ei ogoniant, yn ol gweithrediad Ei allu i ddarostwng pob peth Iddo Ei hun.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yr hwn a gyfnewidia gorff ein darostyngiad ni i fod yn unffurf â chorff ei ogoniant ef, yn ôl y gweithrediad y dichon ef trwyddo hyd yn oed ddarostwng pob dim iddo’i hun.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn a gyfnewidia ein corff gwael ni, fel y gwneler ef yr un ffurf â'i gorff gogoneddus ef, yn ôl y nerthol weithrediad trwy yr hwn y dichon efe, ie, ddarostwng pob peth iddo ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yn trawsffurfio ein cyrff marwol, tila ni, ac yn eu gwneud yr un fath â'i gorff rhyfeddol ei hun, drwy'r grym sy'n ei alluogi i osod pob peth dan ei reolaeth ei hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd ef yn gweddnewid ein corff iselwael ni ac yn ei wneud yn unffurf 'i gorff gogoneddus ef, trwy'r nerth sydd yn ei alluogi i ddwyn pob peth dan ei awdurdod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn a ddull‐newidia gorph ein darostyngiad i fod yn un‐ffurf â chorph ei ogoniant ef, yn ol gweithrediad ei allu hyd y nod i ddarostwng pob peth iddo ei hun.