Philippians 3:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
cyd bei i mi hefyt allu ymddiried yn y cnawt. A thybia nep arall y gallei ymddiried yn y cnawt, ys mwy y galla vi:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
er fy mod i ag achos ymddiried hyd yn oed yn y cnawd. Os meddylia neb arall ei fod ag achos ymddiried yn y cnawd, yr wyf fi yn hytrach;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
er gallu ohonof fi fy hun ymddiried yn y cnawd. O thyb neb arall y gall ymddiried yn y cnawd, myfi’n fwy felly;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac er bod gennyf achos i ymddiried, ie, yn y cnawd. Os yw neb arall yn tybied y gall ymddiried yn y cnawd, myfi yn fwy:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er, byddai gen i ddigon o sail i ymddiried yn hynny taswn i eisiau! Mae gen i fwy o le i ymddiried yn y math yna o beth na neb!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
er bod gennyf, o'm rhan fy hun, le i ymddiried yn y cnawd hefyd. Os oes rhywun arall yn tybio fod ganddo le i ymddiried yn y cnawd, yr wyf fi'n fwy felly:
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
er y gallwn i fy hun ymddiried hyd y nod yn y cnawd. Os yw neb arall yn meddwl ymddiried yn y cnawd, myfi yn fwy: