Philippians 3:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr y petheu oedd yn elw i mi, yr ei hyny a gyfrifwn yn gol’et er mwyn Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr y pethau a oedd i mi yn elwau, y rhai hyn a gyfrifais, er mwyn Crist, yn golled.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr pa bethau bynnag oedd elw i mi, y rhain a gyfrifais yn golled er mwyn Crist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y pethau oedd elw i mi, y rhai hynny a gyfrifais i yn golled er mwyn Crist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roeddwn i'n cyfri'r pethau yna i gyd mor bwysig ar un adeg, ond o achos beth wnaeth y Meseia, dŷn nhw'n dda i ddim bellach.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond beth bynnag oedd yn ennill i mi, yr wyf yn awr yn ei ystyried yn golled oherwydd Crist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr y fath bethau oeddynt elwau i mi, yr wyf wedi cyfrif y rhai hynny yn golled er mwyn Crist.