Philippians 3:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr yn ddilys cyfrif rwyf bop dim yn gollet er mwyn rhagorawl wybodaeth am Christ Iesu veu Arglwyð, er mwyn yr hwn y cyfrifais bop dim yn gollet, ac yddwyf yn ei cfrif yn dom, val y gallwn ennill Christ,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr, yn wir, yr wyf yn cyfrif pob peth yn golled o herwydd rhagoroldeb gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd, er mwyn yr Hwn pob peth a gollwyd i mi, ac eu cyfrif yn dom yr wyf, fel y bo Crist wedi Ei ennill genyf,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ie, ymhellach, yr wyf hyd yn oed yn cyfrif popeth yn golled oherwydd rhagoriaeth adnabod Crist Iesu f’Arglwydd, er mwyn yr hwn y’m colledwyd ym mhopeth, ac y cyfrifaf hwynt yn dom fel yr enillwyf Grist
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ie, yn ddiamau, yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled oherwydd ardderchowgrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd: er mwyn yr hwn y'm colledwyd ym mhob peth, ac yr wyf yn eu cyfrif yn dom, fel yr enillwyf Grist,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does dim byd mwy gwerthfawr bellach na'r fraint aruthrol o gael nabod fy Arglwydd, y Meseia Iesu! Dw i'n gallu byw heb y pethau eraill i gyd, cyn belled â mod i'n cael y Meseia. Sbwriel ydy'r cwbl o'i gymharu â chael
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A mwy na hynny hyd yn oed, yr wyf yn dal i gyfrif pob peth yn golled, ar bwys rhagoriaeth y profiad o adnabod Crist Iesu fy Arglwydd, yr un y collais bob peth o'i herwydd. Yr wyf yn cyfrif y cwbl yn ysbwriel, er mwyn imi ennill Crist
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ië, yn wir, yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled o herwydd rhagoroldeb gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd, er mwyn yr hwn y'm colledwyd o bob peth, ac yr wyf yn eu cyfrif yn ysgubion, fel yr ennillwyf Grist,