Philippians 4:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
GAn hyny veu‐broder, caredigion a’ damunedig ion, veu llawenydd a’m coron, velly y safoch yn yr Arglwyð, garedigion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly, fy mrodyr anwyl, ac mewn hiraeth genyf, fy llawenydd a’m coron, felly sefwch yn yr Arglwydd, anwylyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, fy mrodyr annwyl, yr hiraethaf amdanoch, fy llawenydd a’m coron, sefwch felly yn yr Arglwydd, garedigion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, fy mrodyr annwyl a hoff, fy llawenydd a'm coron, felly sefwch yn yr Arglwydd, anwylyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i'n eich caru chi gymaint ac yn hiraethu amdanoch chi. Dych chi'n fy ngwneud i mor hapus, a dw i mor falch ohonoch chi. Felly daliwch ati — arhoswch yn ffyddlon i'r Arglwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, fy nghyfeillion, anwyliaid yr wyf yn hiraethu amdanynt, fy llawenydd a'm coron, safwch yn gadarn fel hyn yn yr Arglwydd, fy nghyfeillion annwyl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hynny, fy mrodyr anwyl am y rhai yr hiraethaf, fy llawenydd a'm coron, felly sefwch yn yr Arglwydd, anwyliaid.