Philippians 4:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’llawē wyf hefyt yn yr Arglwyð yn ddir vawr, gan y chwi yr awrhon or dyweð ymadnewyðu i synnie d arnaf, am yr hyn cyd baech yn synniet, ny d oeddech yn cahel enhyd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Llawenychais yn yr Arglwydd yn fawr o herwydd yn awr adfywio o honoch synied trosof; am yr hyn y syniasoch, ond amser cyfaddas nid oedd genych.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Mi a lawenychais hefyd yn fawr yn yr Arglwydd oherwydd adfywio ohonoch yn awr o’r diwedd eich gofal amdanaf; a buoch yn ofalus yn hyn hefyd, ond bod diffyg cyfle arnoch;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mi a lawenychais hefyd yn yr Arglwydd yn fawr, oblegid i'ch gofal chwi amdanaf fi yr awr hon o'r diwedd adnewyddu; yn yr hyn y buoch ofalus hefyd, ond eisiau amser cyfaddas oedd arnoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roeddwn i mor llawen, ac yn diolch i'r Arglwydd eich bod wedi dangos gofal amdana i unwaith eto. Dw i'n gwybod mai felly roeddech chi'n teimlo drwy'r adeg, ond doedd dim cyfle i chi ddangos hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'n llawenydd mawr yn yr Arglwydd i mi, fod eich gofal amdanaf yn awr o'r diwedd wedi blaguro eto. O ran hynny, yr oedd y gofal gennych; yr amser cyfaddas oedd yn eisiau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Llawenychais yn yr Arglwydd yn fawr o herwydd o'r diwedd i chwi adnewyddu eich dyddordeb ynof fi, am yr hyn y meddyliasoch, ond ni chawsoch gyfle.