Philippians 4:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Sef y metraf ymostwng, a’ metraf amlhau: ym‐pop lle, ac ym pop dim im addyscir y vot yn llawn, a’ bod yn newynoc, a’bot yn helaeth, a’ bod mewn eisiae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwn pa sut i’m hiselu, gwn hefyd pa sut i fod ag helaethrwydd genyf; ym mhob dim, ac ym mhob peth, y’m haddysgwyd i fod yn llawn ac i fod yn newynog, ac i fod ag helaethrwydd genyf, ac i fod mewn eisiau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwn pa fodd i ymostwng, gwn hefyd pa fodd i fod mewn helaethrwydd; ymhob dim ac ymhopeth dysgais y dirgelwch pa fodd i fod yn llawn ac yn newynog, a pha fodd i fod mewn helaethrwydd ac mewn prinder.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a fedraf ymostwng, ac a fedraf ymhelaethu: ym mhob lle ac ym mhob peth y'm haddysgwyd, i fod yn llawn ac i fod yn newynog, i fod mewn helaethrwydd ac i fod mewn prinder.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gwybod sut mae byw pan dw i'n brin, a sut beth ydy bod ar ben fy nigon. Dw i wedi dysgu'r gyfrinach o fod yn hapus beth bynnag ydy'r sefyllfa — pan mae gen i stumog lawn, a phan dw i'n llwgu, os oes gen i hen ddigon neu os nad oes gen i ddim.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwn sut i gymryd fy narostwng, a gwn hefyd sut i fod uwchben fy nigon. Ym mhob rhyw amgylchiadau, yr wyf wedi dysgu'r gyfrinach sut i ddygymod, boed llawnder neu newyn, helaethrwydd neu brinder.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Mi a wn pa beth yw bod yn isel, gwn hefyd pa fodd i fod mewn helaethrwydd; ym mhob un peth ac yn yr oll yr wyf wedi fy egwyddori i fod yn llawn ac i fod yn newynog; i fod mewn helaethrwydd ac mewn prinder.