Philippians 4:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chwi Philippieit, a wyddoch can ys yn d echreu ad yr Euāgel, pan aethym i ymaith o Vacedonia, ny chyfrannawdd vn Eccles a mi o bleit devnydd rhoddy a’ derbyn, amyn chwi chvvi yn vnic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gwybod yr ydych chwi hefyd, Philippiaid, yn nechreuad yr Efengyl, pan aethum allan o Macedonia, nad oedd un eglwys a gyd-gyfrannogodd â myfi o ran rhoddi a derbyn, oddieithr chwychwi yn unig,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwyddoch chwi eich hunain hefyd, o Philipiaid, na chyfrannodd yr un eglwys i mi yn nechreu’r efengyl pan euthum allan o Facedonia o ran rhoddi a derbyn ond chwychwi’n unig,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwithau, Philipiaid, hefyd a wyddoch yn nechreuad yr efengyl, pan euthum i ymaith o Facedonia, na chyfrannodd un eglwys â mi o ran rhoddi a derbyn, ond chwychwi yn unig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y dyddiau cynnar pan glywoch chi'r newyddion da gyntaf, pan adewais i Macedonia, chi yn Philipi oedd yr unig rai wnaeth fy helpu i — dych chi'n gwybod hynny'n iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydych chwithau, Philipiaid, yn gwybod, pan euthum allan o Facedonia ar gychwyn y genhadaeth, na fu gan yr un eglwys, ar wahn i chwi yn unig, ran gyda mi mewn rhoi a derbyn;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwyddoch chwi eich hunain hefyd, O Philippiaid, yn nechreuad yr efengyl, pan aethum allan o Macedonia, na fu un eglwys gyd‐gyfrannog â mi, o ran rhoddi a derbyn, ond chwychwi yn unig;