Philippians 4:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys‐ a myvi yn Thessalonica, chwi a hebrynesshch, vnwaith, ac eilwaith er mwyn veu angenraid i,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys hyd yn oed yn Thessalonica, unwaith a dwywaith hefyd, at fy anghenrhaid y danfonasoch i mi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
oblegid hyd yn oed yn Thesalonica anfonasoch unwaith ac eilwaith wrth f’anghenraid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid yn Thesalonica hefyd yr anfonasoch i mi unwaith ac eilwaith wrth fy anghenraid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hyd yn oed pan roeddwn i yn Thesalonica, dyma chi'n anfon rhodd ata i sawl tro.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd yn Thesalonica hyd yn oed anfonasoch unwaith, ac eilwaith, i gyfarfod 'm hangen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys hyd y nod yn Thessalonica, unwaith a dwywaith hefyd, danfonasoch i mi ar gyfer fy angenrhaid.