Philippians 4:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
nyd erwydd yr archaf rodd: anyd ys archaf y ffrwyth rhwn all aml h au yn borth i chwi:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid am fy mod yn ceisio’r rhodd, eithr ceisio yr wyf y ffrwyth sy’n amlhau erbyn eich cyfrif.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid fy mod yn ceisio’r rhodd, ond ceisio’r wyf y ffrwyth sydd ar gynnydd i’ch cyfrif chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid oherwydd fy mod i yn ceisio rhodd: eithr yr ydwyf yn ceisio ffrwyth yn amlhau erbyn eich cyfrif chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dw i ddim yn pysgota am rodd arall wrth ddweud hyn i gyd. Dim ond eisiau i chi ddal ati i ychwanegu at eich stôr o weithredoedd da ydw i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid ceisio'r rhodd yr wyf, ond ceisio'r elw sy'n cynyddu i'ch cyfrif chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nid am fy mod yn ciesio, y rhodd, eithr yr wyf yn ceisio y ffrwyth sydd yn amlhau i'ch cyfrif chwi.