Philippians 4:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pellach ys d erbyniais oll, ac mae genyf helaethrwydd: ’sef im cyfla vv nwyt, gwedy ym’ dd erbyn y gan Epaphroditus y petheu a ddaeth y wrthych, arogl per‐ar wynt, aberth gymradwy a’ t h irion gan Dduw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Genyf y mae pob peth, ac mewn helaethrwydd: llanwyd fi, wedi derbyn gan Epaphroditus y pethau oddi wrthych, arogl peraidd, aberth cymmeradwy, boddlawn gan Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond derbyniais bopeth, ac y mae gennyf helaethrwydd; cyflawnwyd fi oherwydd caffael ohonof gan Epaphroditus y pethau oddiwrthych chwi, arogl per, aberth cymeradwy, wrth fodd Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y mae gennyf bob peth, ac y mae gennyf helaethrwydd: mi a gyflawnwyd, wedi i mi dderbyn gan Epaffroditus y pethau a ddaethant oddi wrthych chwi; sef arogl peraidd, aberth cymeradwy, bodlon gan Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi derbyn popeth sydd arna i ei angen, a mwy! Bellach mae gen i hen ddigon ar ôl derbyn eich rhodd gan Epaffroditws. Mae'r cwbl fel offrwm i Dduw — yn arogli'n hyfryd, ac yn aberth sy'n dderbyniol gan Dduw ac yn ei blesio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf fi wedi derbyn fy nhl yn llawn, a mwy na hynny; y mae gennyf gyflawnder ar l derbyn trwy law Epaffroditus yr hyn a anfonasoch chwi; y mae hynny'n arogl pr, yn aberth cymeradwy, wrth fodd Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae gennyf ddigon o bob peth, a mwy na digon; yr wyf wedi fy llanw, wedi derbyn gan Epaphroditus y rhoddion oddiwrthych chwi, arogl peraidd, aberth cymmeradwy, boddlawn gan Dduw.