Philippians 4:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ys archaf arna‐ti the, ffyddlawn gydweddawc cymporth y gvvragedd hyny, yr ei a lavuriesont y gyd a mi yn yr Euangel, y gyd a C h lement hefyt, a’ chyd ac erail o’m cyd weithwyr, yr ei ’sy ei h enwae yn scrivenedic yn y llyfer y bywyt. Yr Epistol y iiij. Sul yn Aduent.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ie, gofyn yr wyf i ti hefyd, wir gymmar, gymmorth y gwragedd hyn, y rhai a gyd-lafuriasant yn yr Efengyl â mi, ynghyda Chlement hefyd a’m cyd-weithwyr eraill, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ie, yr wyf yn erfyn arnat tithau hefyd, wir gymar, cymorth hwynt, oherwydd iddynt gydymdrechu â mi yn yr efengyl gyda Chlement a’r rhelyw o’m cydweithwyr sydd a’u henwau yn llyfr y bywyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr ydwyf yn dymuno arnat tithau, fy ngwir gymar, cymorth y gwragedd hynny y rhai yn yr efengyl a gydlafuriasant â mi, ynghyd â Chlement hefyd, a'm cyd‐weithwyr eraill, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dw i'n gofyn i ti, fy mhartner ffyddlon i, eu helpu nhw. Mae'r ddwy yn wragedd sydd wedi brwydro gyda mi o blaid y newyddion da, gyda Clement a phob un arall o'm cydweithwyr. Mae eu henwau i gyd yn Llyfr y Bywyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn wir y mae gennyf gais i tithau, fy nghydymaith cywir dan yr iau: rho dy gymorth i'r gwragedd hyn a gydymdrechodd mi o blaid yr Efengyl, ynghyd Clement a'm cydweithwyr eraill, sydd 'u henwau yn llyfr y bywyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ië, gofyn yr wyf i ti hefyd, wir gymmar, cymmorth y gwragedd hyn, yn gyfryw ag a gyd‐ymdrechasant gyda mi yn yr efengyl, ynghyd a Chlement hefyd a'm cyd‐weithwyr eraill, y rhai y mae eu henwau yn Llyfr y Bywyd.