Philippians 4:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eb law hyn, vroder, pa bethæ pynac ’sy gywir, pa beth e bynac sy syber vv, pa pethæ pynac ’sy gyfiawn, pa pethe pynac, ’sy pur, pa bethe pynac ’sy garuaidd, pa petheu pynac sydd o enw da, a d oes vn rhinweð, ac a’ d oes dim moliant, meðyliwch am y petheu hyn,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn ddiweddaf, frodyr, cynnifer bethau ag sydd wir, cynnifer ag sydd ardderchog, cynnifer ag sydd gyfiawn, cynnifer ag sydd bur, cynnifer ag sydd hawddgar, cynnifer ag sydd ganmoladwy; od oes dim rhinwedd, ac od oes dim clod, am y pethau hyn meddyliwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Bellach, frodyr, pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd urddasol, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd ddihalog, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd raslawn, od oes dim rhinwedd ac, od oes dim clod, gwnewch gyfrif o’r pethau hyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn ddiwethaf, frodyr, pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd onest, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd bur, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd ganmoladwy, od oes un rhinwedd, ac od oes dim clod, meddyliwch am y pethau hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac un peth arall i gloi, ffrindiau: meddyliwch bob amser am beth sy'n wir ac i'w edmygu — am beth sy'n iawn i'w wneud, yn bur, yn garedig ac yn anrhydeddus — hynny ydy, popeth da ac unrhyw beth sy'n haeddu ei ganmol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bellach, gyfeillion, beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar a chanmoladwy, pob rhinwedd a phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn ddiweddaf, frodyr, pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd anrhydeddus, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd bur, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd o rasol‐ymadrodd, od oes dim rhinwedd, ac od oes dim clod, am y pethau hyn meddyliwch.