Philippians 4:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr ei’n a ðyscesoch ac a ðerbyniesoch, ac a glywsoch, ac a welsoch yn y vi: y petheu hyny gwnewch, a’ Duw benavvdur tāgneðyf a vyð y gyd a chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac y pethau a ddysgasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof, y pethau hyn gwnewch; a Duw’r heddwch fydd gyda chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y pethau a ddysgasoch hefyd ac a dderbyniasoch ac a glywsoch ac a welsoch ynof fi, y pethau hyn gwnewch; a Duw’r tangnefedd a fydd gyda chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai a ddysgasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof fi, y pethau hyn gwnewch: a Duw'r heddwch a fydd gyda chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnewch y pethau hynny dych chi wedi eu dysgu a'u gweld a'u clywed gen i. A bydd y Duw sy'n rhoi ei heddwch gyda chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y pethau yr ydych wedi eu dysgu a'u derbyn, eu clywed a'u gweled, ynof fi, gwnewch y rhain; a bydd Duw'r tangnefedd gyda chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r pethau a ddysgasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof fi, y pethau hyn gwnewch; a Duw yr heddwch a fyddo gyda chwi.