Proverbs 1:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ofn yr ARGLWYDD yw dechreuad gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf at wybodaeth; does gan ffyliaid ddim diddordeb mewn bod yn ddoeth na dysgu byw yn iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau gwybodaeth, ond y mae ffyliaid yn diystyru doethineb a disgyblaeth.