Proverbs 14:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Onid ydyw y rhai a ddychmygant ddrwg yn cyfeiliorni? eithr trugaredd a gwirionedd a fydd i'r sawl a ddychmygant ddaioni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Onid ydy'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn mynd ar goll? Ond mae'r rhai sy'n bwriadu gwneud daioni yn garedig ac yn ffyddlon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Onid yw'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn cyfeiliorni, ond y rhai sy'n cynllunio da yn deyrngar a ffyddlon?