Proverbs 19:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Synnwyr dyn a oeda ei ddigofaint ef: a harddwch yw iddo fyned dros gamwedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae rhywun call yn rheoli ei dymer; mae i'w ganmol am faddau i rywun sy'n pechu'n ei erbyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae deall yn gwneud rhywun yn amyneddgar, a'i anrhydedd yw maddau tramgwydd.