Proverbs 28:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gŵr drwg ei lygad a brysura i ymgyfoethogi: ond bychan y gŵyr efe y daw tlodi arno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae person cybyddlyd eisiau gwneud arian sydyn, heb sylweddoli mai colled sy'n dod iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae un cybyddlyd yn rhuthro am gyfoeth; nid yw'n ystyried y daw arno angen.