Proverbs 28:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y neb a ysbeilio ei dad neu ei fam, ac a ddywed, Nid yw hyn gamwedd, sydd gymar i ddinistriwr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r un sy'n dwyn oddi ar ei dad a'i fam, ac yna'n dweud, “wnes i ddim byd o'i le,” yn ffrind i lofrudd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r un sy'n lladrata oddi ar ei dad neu ei fam, ac yn dweud nad yw'n drosedd, yn gymar i'r un sy'n dinistrio.