Proverbs 30:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy a esgynnodd i'r nefoedd, neu a ddisgynnodd? pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddyrnau? pwy a rwymodd y dyfroedd mewn dilledyn? pwy a gadarnhaodd holl derfynau y ddaear? beth yw ei enw ef, a pheth yw enw ei fab, os gwyddost?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pwy sydd wedi mynd i fyny i'r nefoedd, a dod yn ôl i lawr eto? Pwy sydd wedi gallu dal gafael yn y gwynt? Pwy sydd wedi gallu lapio'r moroedd mewn mantell? Pwy sydd wedi mesur y ddaear o un pen i'r llall? Beth ydy ei enw e, ac enw ei fab? — dywed os wyt ti'n gwybod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy a esgynnodd i'r nefoedd, ac yna disgyn? Pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddwrn? Pwy a rwymodd y dyfroedd mewn gwisg? Pwy a sefydlodd holl derfynau'r ddaear? Beth yw ei enw, neu enw ei fab, os wyt yn gwybod?