Proverbs 30:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhag i mi ymlenwi, a'th wadu di, a dywedyd, Pwy yw yr ARGLWYDD? a rhag i mi fyned yn dlawd, a lladrata, a chymryd enw fy NUW yn ofer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ie, cadw fi rhag teimlo fod popeth gen i, ac yna dy wrthod di, a dweud, “Pwy ydy'r ARGLWYDD?” A cadw fi rhag dwyn am fy mod yn dlawd, a rhoi enw drwg i Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
rhag imi deimlo ar ben fy nigon, a'th wadu, a dweud, "Pwy yw'r ARGLWYDD?" Neu rhag imi fynd yn dlawd, a throi'n lleidr, a gwneud drwg i enw fy Nuw.