Proverbs 8:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ha ynfydion, deellwch gyfrwyster; a chwi wŷr angall, byddwch o galon ddeallus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Chi rai gwirion, dysgwch sut mae bod yn gall; chi bobl ddwl, dysgwch chithau rywbeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Chwi, y rhai gwirion, dysgwch graffter, a chwithau, ffyliaid, ceisiwch synnwyr.