Psalms 101:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Torraf ymaith yr hwn a enllibio ei gymydog yn ddirgel: yr uchel o olwg, a'r balch ei galon, ni allaf ei ddioddef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n rhoi taw ar bwy bynnag sy'n enllibio'i gymydog yn y dirgel. Alla i ddim diodde pobl falch sy'n llawn ohonyn nhw eu hunain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy bynnag sy'n enllibio'i gymydog yn ddirgel, rhof daw arno; y ffroenuchel a'r balch, ni allaf ei oddef.