Psalms 102:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwy a ddarfyddant, a thi a barhei: ie, hwy oll a heneiddiant fel dilledyn; fel gwisg y newidi hwynt, a hwy a newidir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n darfod, ond rwyt ti'n aros. Byddan nhw'n mynd yn hen fel dillad wedi eu gwisgo. Byddi di'n eu tynnu fel dilledyn, a byddan nhw wedi mynd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y maent hwy yn darfod, ond yr wyt ti yn aros; y maent i gyd yn treulio fel dilledyn. Yr wyt yn eu newid fel gwisg, ac y maent yn diflannu;