Psalms 11:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ARGLWYDD sydd yn nheml ei sancteiddrwydd; gorseddfa yr ARGLWYDD sydd yn y nefoedd: y mae ei lygaid ef yn gweled, ei amrantau yn profi meibion dynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ARGLWYDD yn ei balas sanctaidd! Ie, yr ARGLWYDD — mae ei orsedd yn y nefoedd! Mae e'n gweld y cwbl! Mae'n edrych yn fanwl ar y ddynoliaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r ARGLWYDD yn ei deml sanctaidd, a gorsedd yr ARGLWYDD yn y nefoedd; y mae ei lygaid yn edrych ar y ddynolryw, a'i olygon yn ei phrofi.