Psalms 110:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Salm Dafydd. [1] Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i'th draed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Salm gan Dafydd. [1] Dwedodd yr ARGLWYDD wrth fy arglwydd, “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi wneud dy elynion yn stôl dan dy draed di.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
1 I Ddafydd. Salm.0 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd: "Eistedd ar fy neheulaw, nes imi wneud dy elynion yn droedfainc i ti."