Psalms 123:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, fel y mae llygaid gweision ar law eu meistriaid, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei meistres; felly y mae ein llygaid ni ar yr ARGLWYDD ein DUW, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fel mae llygaid caethweision yn edrych ar law eu meistri, neu lygaid caethforwyn yn edrych ar law ei meistres, mae ein llygaid ni yn edrych ar yr ARGLWYDD ein Duw, ac yn disgwyl iddo ddangos ei ffafr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel y mae llygaid gweision yn gwylio llaw eu meistr, a llygaid caethferch yn gwylio llaw ei meistres, felly y mae ein llygaid ninnau yn gwylio'r ARGLWYDD ein Duw nes iddo drugarhau wrthym.