Psalms 138:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ymgrymaf tua'th deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a'th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n ymgrymu i gyfeiriad dy deml sanctaidd ac yn moli dy enw am dy gariad a dy ffyddlondeb. Mae dy enw a dy addewid di yn well na phopeth sy'n bod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymgrymaf tuag at dy deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw am dy gariad a'th ffyddlondeb, oherwydd dyrchefaist dy enw a'th air uwchlaw popeth.