Psalms 145:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragwyddol: a'th lywodraeth a bery yn oes oesoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae dy deyrnasiad yn para drwy'r oesoedd, ac mae dy awdurdod yn para ar hyd y cenedlaethau! Mae'r ARGLWYDD yn cadw ei air; ac yn ffyddlon ym mhopeth mae'n ei wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Teyrnas dragwyddol yw dy deyrnas, a saif dy lywodraeth byth bythoedd. Y mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon yn ei holl eiriau, ac yn drugarog yn ei holl weithredoedd.