Psalms 17:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhag dynion, y rhai yw dy law, O ARGLWYDD, rhag dynion y byd, y rhai y mae eu rhan yn y bywyd yma, a'r rhai y llenwaist eu boliau â'th guddiedig drysor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gweddill i'w rhai bychain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Achub fi o afael y llofruddion, ARGLWYDD! Lladd nhw! Paid gadael iddyn nhw fyw! Ond i'r rhai sy'n werthfawr yn dy olwg — rwyt yn llenwi eu boliau, mae eu plant yn cael eu bodloni a byddan nhw'n gadael digonedd i'w rhai bach.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'th law, ARGLWYDD, gwna ddiwedd arnynt, difa hwy o'u rhan yng nghanol bywyd. Llanwer eu bol 'r hyn sydd gennyt ar eu cyfer, bydded i'w plant gael digon, a chadw gweddill i'w babanod!