Psalms 18:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I'r Pencerdd, Salm Dafydd, gwas yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarodd wrth yr ARGLWYDD eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei holl elynion, ac o law Saul: ac efe a ddywedodd, [1] Caraf di, ARGLWYDD fy nghadernid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
I'r arweinydd cerdd: Salm gan Dafydd, gwas yr ARGLWYDD. Canodd eiriau'r gân hon ar ôl i'r ARGLWYDD ei achub o ddwylo ei holl elynion, ac o afael Saul. Dyma ddwedodd e: [1] Dw i'n dy garu di, ARGLWYDD; ti sy'n rhoi nerth i mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
1 I'r Cyfarwyddwr: I Ddafydd, gwas yr ARGLWYDD, a lefarodd eiriau'r gerdd hon wrth yr ARGLWYDD y diwrnod y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei elynion ac o law Saul. A dywedodd:0 Caraf di, O ARGLWYDD, fy nghryfder.