Psalms 18:50 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe sydd yn gwneuthur mawr ymwared i'w Frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i'w eneiniog, i Dafydd, ac i'w had ef byth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n rhoi buddugoliaeth i'w frenin — un fuddugoliaeth fawr ar ôl y llall! Mae'n aros yn ffyddlon i'w eneiniog — i Dafydd, ac i'w ddisgynyddion am byth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'n gwaredu ei frenin yn helaeth, ac yn cadw'n ffyddlon i'w eneiniog, i Ddafydd ac i'w had am byth.