Psalms 22:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fy nerth a wywodd fel priddlestr; a'm tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau: ac i lwch angau y'm dygaist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae fy egni wedi sychu fel potyn pridd. Mae fy nhafod wedi glynu i dop fy ngheg. Rwyt wedi fy rhoi i lwch marwolaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
y mae fy ngheg yn sych fel cragen a'm tafod yn glynu wrth daflod fy ngenau; yr wyt wedi fy mwrw i lwch marwolaeth.