Psalms 32:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Addefais fy mhechod wrthyt, a'm hanwiredd ni chuddiais: dywedais, Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i'r ARGLWYDD; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Sela.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wedyn dyma fi'n cyfaddef fy mhechod. Wnes i guddio dim byd. “Dw i'n mynd i gyffesu'r cwbl i'r ARGLWYDD” meddwn i, ac er fy mod i'n euog dyma ti'n maddau'r cwbl. Saib
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, bu imi gydnabod fy mhechod wrthyt, a pheidio chuddio fy nrygioni; dywedais, "Yr wyf yn cyffesu fy mhechodau i'r ARGLWYDD"; a bu i tithau faddau euogrwydd fy mhechod. Sela.