Psalms 34:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Agos yw yr ARGLWYDD at y rhai drylliedig o galon; ac efe a geidw y rhai briwedig o ysbryd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ARGLWYDD yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau. Mae e'n achub y rhai sydd wedi anobeithio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r ARGLWYDD yn agos at y drylliedig o galon ac yn gwaredu'r briwedig o ysbryd.