Psalms 35:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fy holl esgyrn a ddywedant, O ARGLWYDD, pwy sydd fel tydi, yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo drech nag ef: y truan hefyd a'r tlawd, rhag y neb a'i hysbeilio?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y cwbl ohona i'n datgan, “Pwy sy'n debyg i ti, ARGLWYDD? Ti'n achub y gwan rhag un sy'n rhy gryf iddo — achub y gwan a'r diamddiffyn rhag yr un sydd am ddwyn oddi arno.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd fy holl esgyrn yn gweiddi, "Pwy, ARGLWYDD, sydd fel tydi, yn gwaredu'r tlawd rhag un cryfach nag ef, y tlawd a'r anghenus rhag un sy'n ei ysbeilio?"