Psalms 37:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr ARGLWYDD a gâr farn, ac ni edy ei saint; cedwir hwynt yn dragywydd: ond had yr annuwiol a dorrir ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ARGLWYDD yn caru beth sy'n gyfiawn, a dydy e byth yn siomi'r rhai sy'n ffyddlon iddo. Maen nhw'n saff bob amser! Ond bydd plant y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn caru barn, ac nid yw'n gadael ei ffyddloniaid; ond difethir yr anghyfiawn am byth, a thorrir ymaith blant y drygionus.