Psalms 4:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I'r Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd. [1] Gwrando fi pan alwyf, O DDUW fy nghyfiawnder: mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf; trugarha wrthyf, ac erglyw fy ngweddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
I'r arweinydd cerdd: Salm i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm Dafydd. [1] O Dduw, ateb fi pan dw i'n galw arnat! Ti ydy'r un sy'n achub fy ngham! Dw i mewn argyfwng, ond gelli di ddod â fi allan. Dangos drugaredd ata i, a gwrando ar fy ngweddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
1 I'r Cyfarwyddwr: ag offerynnau llinynnol. Salm. I Ddafydd.0 Ateb fi pan alwaf, O Dduw fy nghyfiawnder! Pan oeddwn mewn cyfyngder, gwaredaist fi; bydd drugarog wrthyf, a gwrando fy ngweddi.