Psalms 40:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys drygau annifeiriol a'm cylchynasant o amgylch: fy mhechodau a'm daliasant, fel na allwn edrych i fyny: amlach ydynt na gwallt fy mhen; am hynny y pallodd fy nghalon gennyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae peryglon di-ben-draw o'm cwmpas i ym mhobman. Mae fy mhechodau wedi fy nal i. Maen nhw wedi fy nallu! Mae mwy ohonyn nhw nag sydd o wallt ar fy mhen! Dw i wedi dod i ben fy nhennyn!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae drygau dirifedi wedi cau amdanaf; y mae fy nghamweddau wedi fy nal fel na allaf weld; y maent yn fwy niferus na gwallt fy mhen, ac y mae fy nghalon yn suddo.