Psalms 40:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Lluosog y gwnaethost ti, O ARGLWYDD fy NUW, dy ryfeddodau, a'th amcanion tuag atom: ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O ARGLWYDD fy Nuw, rwyt ti wedi gwneud cymaint! — gwneud pethau rhyfeddol i gyflawni dy bwrpas ynon ni. Does neb yn gallu dy rwystro di! Dw i eisiau sôn am y pethau hyn wrth bobl eraill, ond mae yna ormod ohonyn nhw i'w cyfrif!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Mor niferus, O ARGLWYDD, fy Nuw, yw'r rhyfeddodau a wnaethost, a'th fwriadau ar ein cyfer; nid oes tebyg i ti! Dymunwn eu cyhoeddi a'u hadrodd, ond maent yn rhy niferus i'w rhifo.