Psalms 45:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tecach ydwyt na meibion dynion: tywalltwyd gras ar dy wefusau: oherwydd hynny y'th fendithiodd DUW yn dragywydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ti ydy'r dyn mwya golygus sydd, ac mae dy eiriau mor garedig. Mae'n dangos fod Duw wedi dy fendithio di bob amser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyt yn decach na phawb; tywalltwyd gras ar dy wefusau am i Dduw dy fendithio am byth.