Psalms 45:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny y'th eneiniodd DUW, sef dy DDUW di, ag olew llawenydd yn fwy na'th gyfeillion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ti'n caru beth sy'n iawn ac yn casáu drygioni; felly mae Duw, ie dy Dduw di, wedi dy eneinio di a thywallt olew llawenydd arnat ti fwy na neb arall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ceraist gyfiawnder a chasu drygioni; am hynny bu i Dduw, dy Dduw di, dy eneinio ag olew llawenydd uwchlaw dy gyfoedion.