Psalms 47:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pendefigion y bobl a ymgasglasant ynghyd, sef pobl DUW Abraham: canys tarianau y ddaear ydynt eiddo DUW: dirfawr y dyrchafwyd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae tywysogion y bobloedd wedi ymgasglu gyda phobl Duw Abraham. Mae awdurdod Duw dros lywodraethwyr y byd; Mae e ymhell uwch eu pennau nhw i gyd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae tywysogion y bobl wedi ymgynnull gyda phobl Duw Abraham; oherwydd eiddo Duw yw mawrion y ddaear fe'i dyrchafwyd yn uchel iawn.