Psalms 52:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Clodforaf di yn dragywydd, oherwydd i ti wneuthur hyn: a disgwyliaf wrth dy enw; canys da yw gerbron dy saint.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n dy foli di am byth, O Dduw, am beth rwyt ti wedi ei wneud. Dw i'n mynd i obeithio yn dy enw di. Mae'r rhai sy'n ffyddlon i ti yn gwybod mor dda wyt ti!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Diolchaf iti hyd byth am yr hyn a wnaethost; cyhoeddaf dy enw oherwydd da yw ymysg dy ffyddloniaid.