Psalms 57:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I'r Pencerdd, Al‐taschith, Michtam Dafydd, pan ffodd rhag Saul i'r ogof. [1] Trugarha wrthyf, O DDUW, trugarha wrthyf: canys ynot y gobeithiodd fy enaid; ie, yng nghysgod dy adenydd y gobeithiaf, hyd onid êl yr aflwydd hwn heibio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw ‛Paid dinistrio‛. Salm wedi ei hysgrifennu gan Dafydd pan oedd wedi ffoi rhag Saul i'r ogof. [1] Dangos drugaredd ata i, O Dduw, dangos drugaredd ata i! Dw i'n troi atat ti am loches. Dw i am guddio dan dy adenydd di nes bydd y storm yma wedi mynd heibio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
1 I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. Michtam. I Ddafydd, pan ddihangodd rhag Saul yn yr ogof.0 Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, bydd drugarog wrthyf, oherwydd ynot ti yr wyf yn llochesu; yng nghysgod dy adenydd y mae fy lloches nes i'r stormydd fynd heibio.