Psalms 59:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys wele, cynllwynasant yn erbyn fy enaid: ymgasglodd cedyrn i'm herbyn; nid ar fy mai na'm pechod i, O ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrych arnyn nhw'n cuddio. Maen nhw'n barod i ymosod. Mae dynion cas yn disgwyl amdana i, a minnau heb wneud dim byd i'w croesi nhw, O ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd wele, gosodant gynllwyn am fy einioes; y mae rhai cryfion yn ymosod arnaf. Heb fod trosedd na phechod ynof fi, ARGLWYDD,