Psalms 60:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I'r Pencerdd ar Susan‐eduth, Michtam Dafydd, i ddysgu; pan ymladdodd yn erbyn Syriaid Mesopotamia, a Syriaid Soba, pan ddychwelodd Joab, a lladd deuddeng mil o'r Edomiaid yn nyffryn yr halen. [1] O DDUW, bwriaist ni ymaith, gwasgeraist ni, a sorraist: dychwel atom drachefn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw “Lili'r Dystiolaeth”. Salm wedi ei hysgrifennu gan Dafydd (i'w dysgu), pan oedd yn ymladd yn erbyn Syriaid Gogledd Mesopotamia a Syriaid Soba, a Joab yn dod yn ôl ac yn gorchfygu Edom — byddin o ddeuddeg mil — yn Nyffryn yr Halen. [1] O Dduw, rwyt ti wedi'n gwrthod ni a bylchu ein hamddiffyn. Buost yn ddig gyda ni. Plîs adfer ni!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
1 I'r Cyfarwyddwr: ar Susan Eduth. Michtam, i hyfforddi. I Ddafydd, pan oedd yn ymladd yn erbyn Aram-naharaim ac Aram-soba, a Joab yn dychwelyd ac yn lladd deuddeng mil o Edom yn Nyffryn yr Halen.0 O Dduw, gwrthodaist ni a'n bylchu; buost yn ddicllon. Adfer ni!