Psalms 61:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O eithaf y ddaear y llefaf atat, pan lesmeirio fy nghalon: arwain fi i graig a fyddo uwch na mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n galw arnat ti o ben draw'r byd. Pan dw i'n anobeithio, arwain fi at graig uchel ddiogel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
o eithaf y ddaear yr wyf yn galw arnat, pan yw fy nghalon ar suddo. Arwain fi at graig sy'n uwch na mi;