Psalms 66:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr holl ddaear a'th addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i'th enw. Sela.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r byd i gyd yn dy addoli, ac yn canu mawl i ti! Maen nhw'n dy foli di ar gân!” Saib
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
y mae'r holl ddaear yn ymgrymu o'th flaen, ac yn canu mawl i ti, yn canu mawl i'th enw." Sela.